Os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol, yna mae'n werth cysylltu â chwmni arbenigol i weld a allant gynnig cytundeb gwell neu ratach:
- Gwrthodwyd yswiriant teithio i chi oherwydd cyflwr meddygol.
- Mae polisi cyfredol wedi'i ganslo neu ei ddiwygio oherwydd cyflwr meddygol.
- Cynigiwyd yswiriant i chi, ond mae eich cyflwr meddygol wedi'i eithrio.
- Rydych wedi cael cynnig yswiriant gyda phremiwm ychwanegol uchel oherwydd eich cyflwr meddygol.
- Dych yn aros am ddiagnosis o gyflwr meddygol difrifol neu ddiagnosis diwygiedig o gyflwr meddygol sydd gennych eisoes
Mae'r cwmnïau ar ein Cyfeirlyfr yn arbenigo mewn darparu yswiriant teithio i bobl sydd â chyflyrau meddygol difrifol a/neu luosog sydd â risg uchel o fod ag angen rhyw fath o ymyrraeth feddygol tra'ch bod ar eich taith. Gallai enghreifftiau o gyflyrau fod yn ganser, strôc neu gyflwr difrifol ar y galon, cyflyrau anadlol neu gyflyrau sydd wedi cael eu diagnosio fel terfynol.
Fodd bynnag, mae gan wahanol gwmnïau farn wahanol ar ba amodau sy’n ‘risg uchel’ ac mae'n werth rhoi cynnig ar fwy nag un.